Sgerbwd hynafol yn dychwelyd i amgueddfa yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Bydd sgerbwd hynafol o Oes y Cerrig gafodd ei ddarganfod yng ngogledd Cymru yn dychwelyd i Landudno ar ôl 120 o flynyddoedd yn Lloegr.
Cafodd sgerbwd y ddynes, oedd yn fyw tua 5,500 o flynyddoedd yn ôl, ei ddarganfod mewn creigiau ar y Gogarth yn Llandudno yn 1891.
Aeth perchennog y chwarel â'r sgerbwd, sydd wedi cael yr enw 'Blodwen' gan wyddonwyr, i'w arddangos mewn amgueddfa yn Sir Gaerhirfryn.
Bydd Blodwen nawr yn cael ei harddangos yn Amgueddfa Llandudno.
Mae'r sgerbwd, sydd o 3510CC, wedi ei roi ar fenthyg i'r amgueddfa ddwywaith o'r blaen.
Ond mae sicrhau cytundeb parhaol wedi gofyn am drafod rhwng cynrychiolwyr o Gymru ac Amgueddfa Bacup.
Mae ymchwil gafodd ei wneud ar y sgerbwd yn awgrymu bod y ddynes tua 5 troedfedd o daldra, yn dod o gymuned amaethyddol ac wedi marw rhwng 54 a 63 oed.
Roedd gan y ddynes arthritis yn ei chefn a'i phengliniau, ac roedd hefyd yn dioddef o ganser pan fu farw.
Y gred yw ei bod wedi marw ar ôl syrthio i hollt yn y creigiau ar y Gogarth.
Mae disgwyl i'r sgerbwd ddychwelyd i Landudno ddydd Mawrth.