£1.1m i barhau cynllun adfywio
- Cyhoeddwyd

Bydd Llywodraeth Cymru yn talu £1.1m i brynu tai ger Merthyr Tudful, er mwyn galluogi i gynllun adfywio fynd yn ei flaen.
Roedd pobl sy'n byw yn Heol Taf a Heol Crescent yn Ynysowen wedi cwyno bod cynllun i adfywio'r hen safle pwll glo yno yn golygu nad oedd modd gwerthu eu tai, oherwydd perygl llifogydd.
Mae'r arian yn rhan o £1.5m o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i Brosiect Riverside, cynllun adfywio fydd yn cynnwys adeiladu 230 o dai newydd.
Mae rhan gyntaf y cynllun eisoes wedi ariannu ysgol gynradd newydd yn Ynysowen.
Bydd yr ail ran yn golygu prynu 18 o dai gan berchnogion sy'n dymuno gwerthu eu cartrefi, gan greu mwy o dir i ddatblygiad newydd.
Dywedodd y Gweinidog dros Gymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths, y byddai'r cynllun yn cael effaith "trawsnewidiol" ar yr ardal.
"Rydw i'n falch gallu cyhoeddi £1.5m pellach, sy'n cael ei roi mewn partneriaeth a Chyngor Merthyr Tudful.
"Rydw i'n edrych ymlaen ar weld canlyniad y cynllun adfywio uchelgeisiol yma."