Cwest: anafiadau 'ofnadwy' ar ôl disgyn o'r Gogarth
- Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed bod dyn wedi marw ar ôl disgyn oddi ar Ben y Gogarth yn Llandudno wrth wylio'r sêr.
Daeth archwiliad post mortem i'r canlyniad bod y cyffur ecstasi yng nghorff Martin Williams, oedd yn 23.
Dywedodd y Crwner Cynorthwyol Nicola Jones y byddai'r cyffur wedi gallu effeithio ar allu Mr Williams i wneud penderfyniadau.
Cafodd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol ei chofnodi.
Clywodd y cwest bod Mr Williams wedi ei ddarganfod yn gwisgo esgidiau anaddas, a'i fod yn bosib iddo lithro ar wair gwlyb.
Daeth dyn arall oedd wedi bod yn gwylio'r sêr yn oriau man 30 Medi o hyd i gorff Mr Williams ar Marine Drive am tua 04:00.
Roedd wedi dioddef anafiadau difrifol, a dywedodd parafeddyg ei fod wedi marw yn y fan a'r lle.
Anafiadau difrifol
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Bird o dîm achub mynydd Dyffryn Ogwen, ei fod yn debyg bod Mr Williams wedi taro sawl craig fawr wrth ddisgyn tua 50 metr at y ffordd.
Er nad oedd tystiolaeth i ddangos bod Mr Williams yn gaeth i gyffuriau, dywedodd y crwner bod ecstasi wedi ei ddarganfod yn ei gorff.
"Mae'n gyffur dosbarth A fyddai wedi cael effaith ar ei allu i wneud penderfyniadau synhwyrol," meddai.
Ychwanegodd bod llythyr wedi ei ddarganfod yn ei fflat yn Llandudno, ond dywedodd ei fod yn ymddangos ei fod yn hen lythyr.
Wrth gofnodi achos o farwolaeth ddamweiniol, dywedodd y crwner bod Mr Williams wedi dioddef "yr anafiadau mwyaf ofnadwy" ac y byddai wedi marw yn syth.