Gwahardd ffermwr o Sir Benfro rhag cadw anifeiliaid

  • Cyhoeddwyd
Fferm Aled John Morgan
Disgrifiad o’r llun,
Gwelodd arolygwyr bod rhaid i'r anifeiliaid sefyll mewn biswail dwfn y rhan fwyaf o'r amser

Mae ffermwr o Sir Benfro wedi ei wahardd rhag cadw anifeiliaid am saith mlynedd, wedi cwynion am gyflwr gwartheg a moch ar ei fferm.

Roedd Aled John Morgan yn ffermio ym Mrynhyfryd, Penffordd, Clunderwen, ond mae erbyn hyn yn byw yn Llan Isaf, Llangynog yn Sir Gâr.

Cafodd ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Hwlffordd ddydd Mawrth, wythnos ar ôl pledio'n euog i 21 o droseddau - y mwyafrif ohonynt yn ymwneud â lles anifeiliaid.

Ymwelodd milfeddygon ac arolygwyr lles anifeiliaid Cyngor Sir Benfro â'r fferm ar ddeg achlysur o fis Ebrill 2013, ble cafodd Morgan rybuddion a chyngor i'w helpu i wella amodau'r anifeiliaid ar ei fferm.

Yn ystod eu hymweliadau, gwelodd yr arolygwyr nifer o loeau o dan eu pwysau, gwartheg a moch yn cael eu cadw mewn amodau anaddas. Llawer o'r amser, roedd rhaid i'r anifeiliaid sefyll mewn biswail dwfn.

Wrth i'r ymweliadau barhau, cafodd mwy o anifeiliaid eu darganfod wedi marw, a doedd Morgan heb gael gwared â'u carcasau.

Cafodd pedwar llo a dau fochyn eu cymryd i ffwrdd gan y cyngor ym mis Mehefin 2014, ond roedd rhaid i un llo gael ei ddifa.

Wedi i luniau o'r fferm gael eu dangos yn y llys, dywedodd yr ynadon eu bod "wedi'u brawychu" gan yr achos, a bod Morgan yn lwcus i osgoi carchar.