Caerdydd 1-1 Blackburn Rovers
- Cyhoeddwyd

Fe fydd Blackburn yn fwy bodlon gyda sgôr o 1-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth, wrth i gyn-chwaraewr yr Adar Gleision sgorio'n hwyr i gipio pwynt i'r ymwelwyr.
Daeth gêm dawel yn fyw yn y 10 munud olaf, ac roedd hi'n ymddangos bod Caerdydd wedi cipio'r fuddugoliaeth wrth i'r amddiffynnwr Sean Morrison godi'n uwch na'r gweddill i benio i'r rhwyd o groesiad Peter Whittingham chwe munud o'r chwiban olaf.
Ond daeth cyn-ymosodwr yn ôl i gosbi'r tîm cartref, wrth i ergydiad Rudy Gestede o du mewn i'r cwrt cosbi ddarganfod cornel dde'r gôl yn amser ychwanegol.
Dyw'r tîm o'r brifddinas nawr heb ennill mewn saith gem yn olynol.
Dyw'r canlyniad ddim yn debyg o leddfu'r pwysau sydd ar reolwr Caerdydd, Russell Slade, er i'r Adar Gleision godi dau safle i 15fed yn y Bencampwriaeth.