Rhoi'r gorau i chwilio cyn ailddechrau yn y bore
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi rhoi'r gorau i chwilio am fachgen 11 oed cyn ailddechrau fore Gwener.
Daeth y chwilio i ben tua 17:20 brynhawn Iau.
Cafodd Cameron Comey ei weld ddiwethaf yn chwarae ger Afon Tywi yn ardal Tanerdy Caerfyrddin brynhawn Mawrth gyda'i frawd.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un oedd ger yr afon rhwng 14:00 a 16:00 ddydd Mawrth, 17 Chwefror, ac sydd ag unrhyw wybodaeth i ffonio 101.
Ddydd Iau roedd 50 o bobl yn chwilio, gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys, y gwasanaeth tân, Gwylwyr y Glannau a thimau bad achub.
Dywedodd yr heddlu fod deifwyr wedi cael eu galw am y tro cyntaf ddydd Iau.
Er bod yr heddlu'n canolbwyntio yn y man ble credir i'r bachgen gwympo i'r afon yn ardal Tanerdy, maen nhw'n dilyn sawl trywydd.
Dywedodd yr Arolygydd Eric Evans eu bod hefyd wedi chwilio yn agos i gartref y bachgen.