Swyddi newydd i 41% o gyn-weithwyr Murco

  • Cyhoeddwyd
Safle Murco
Disgrifiad o’r llun,
Collodd 340 o weithwyr eu swyddi pan fethodd trafodaethau i achub y safle ym mis Tachwedd

Mae 41% o gyn weithwyr purfa olew Murco yn Aberdaugleddau wedi dod o hyd i swyddi newydd, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Daeth cadarnhad y byddai 340 o weithwyr yn colli eu swyddi pan fethodd trafodaethau i achub y safle ym mis Tachwedd.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod hanner y rheiny sydd wedi cael swyddi newydd yn gweithio yn Sir Benfro.

Ymysg y rhain mae chwe pheiriannydd sydd wedi sefydlu cwmni yn Noc Penfro.

Mae'r cwmni yn dylunio prosiectau adeiladu ac yn ymgynghori yn y maes.

Mae'r burfa wedi ei ddigomisiynu wrth i'r perchnogion chwilio am brynwr newydd.

Cafodd tasglu ei sefydlu gan wleidyddion i helpu'r rhai gollodd eu swyddi, sy'n parhau gyda'i waith.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Edwina Hart: "Cafodd effeithiau cau Murco eu teimlo ar draws Sir Benfro ac ymhellach, felly mae'n galonogol gweld cyfleoedd newydd yn cael eu creu yn lleol."