Trafod cynlluniau i ad-drefnu ysgolion yn y Bala
- Cyhoeddwyd

Gallai tair ysgol yng Ngwynedd orfod cau fel rhan o gynlluniau sy'n cael eu trafod dydd Iau.
Bydd cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod cynllun gwerth £9.27m i ad-drefnu ysgolion yn y Bala.
Gallai Ysgol Beuno Sant, Ysgol Bro Tegid ac Ysgol y Berwyn gau er mwyn gwneud lle ar gyfer un ysgol i blant o dair i 19 oed ar safle Ysgol y Berwyn.
Mae cynnig hefyd i gyfuno rheolaeth Ysgol Bro Tryweryn, Ysgol Ffridd y Llyn ac Ysgol OM Edwards.
Disgwylir i'r cabinet i gymeradwyo cynlluniau i agor ymgynghoriadau cyn y penderfyniad terfynol ym mis Medi.
Dywedodd Gareth Thomas, yr aelod cabinet dros addysg: "Nid yw'r sefyllfa bresennol yn ardal y Bala yn gynaliadwy - mae nifer y disgyblion wedi gostwng dros y 25 mlynedd diwethaf, gan arwain at rai ysgolion gyda hanner eu dosbarthiadau yn wag."