GIG Gogledd Cymru: 'Cerdded mewn i ddinistr'
- Cyhoeddwyd

Mae'r GIG yn "cerdded mewn trwmgwsg i mewn i ddinistr" yng ngogledd Cymru drwy beidio gwneud newidiadau i ysbytai, yn ôl un o swyddogion y gwasanaeth iechyd.
Mae cynlluniau yn cael eu trafod i ganolbwyntio ar lawdriniaeth brys mewn dau ysbyty yn y gogledd yn lle tri.
Bydd y ddau ysbyty yn cael eu dewis o blith Maelor, Wrecsam, Ysbyty Gwynedd ym Mangor a Glan Clwyd ym Modelwyddan.
Mae Bwrdd Betsi Cadwaladr yn dweud bod angen i rai gwasanaethau gael eu canoli gan eu bod yn cael eu hymestyn yn ormodol ar hyn o bryd.
Er y byddai llawdriniaeth brys cyffredinol yn parhau mewn dau ysbyty, fe fydd y trydydd - nad yw wedi cael ei ddewis eto - yn cael ei ddefnyddio ar gyfer llawdriniaethau sydd wedi eu cynllunio.
Mae'r bwrdd iechyd yn ystyried amrywiaeth o opsiynau a newidiadau a fydd yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill.
'Cerdded mewn trwmgwsg'
Dywedodd cyfarwyddwr meddygol Betsi Cadwaladr, Matthew Makin bod y bwrdd yn ymateb i boblogaeth sy'n heneiddio, eu bod eisiau rhoi'r gorau ar "or-ddibyniaeth" o ddefnyddio ysbytai i ofalu am bobl, ac anawsterau recriwtio meddygon ar gyfer pob arbenigedd ar draws y DU.
"Felly ar hyn o bryd rydym yn wynebu heriau mawr, ac os ydym yn gwneud dim, yn syml, byddem yn cerdded mewn trwmgwsg i mewn i ddinistr," meddai.
Mae pryder ymhlith rhai aelodau o staff am y newidiadau, yn enwedig yng Nglan Clwyd, sy'n ofni y bydd eu hysbyty yn cael ei ddewis, yn ôl nifer o negeseuon e-bost a ddatgelwyd yn ddiweddar.
Rhaniadau dwfn
Dywedodd AC Plaid Cymru, Llŷr Gruffydd: "Dylai'r ystyriaeth bwysicaf mewn unrhyw newid yn y gwasanaeth iechyd gael ei harwain yn glinigol, mae'n rhaid arwain gyda barn broffesiynol gan arbenigwyr meddygol.
"Ac mae'r hyn sydd wedi dod i'r amlwg yn y negeseuon e-bost, wrth gwrs, wedi dangos nad dyma'r achos."
Gall BBC Cymru hefyd ddatgelu fod y Cyngor Iechyd Cymuned leol (CIC) wedi rhybuddio bod rhaniadau dwfn ymysg staff.
Mewn llythyr at arweinyddiaeth y bwrdd, dywedodd cadeirydd a phrif swyddog y CIC y byddai gweithdy ym mis Ionawr "wedi bod yn iawn ar gyfer y sefyllfa bum mlynedd yn ôl pan aed i'r afael yn gyntaf a gwasanaethau cynaliadwy, ond erbyn hyn, mae'n rhu hwyr ac yn druenus o brin ar fanylion".