99% o blaid dod a gwlâu yn ôl i ysbyty Stiniog

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Blaenau FfestiniogFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Collwyd gwlâu yn Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog bron i ddwy flynedd yn ôl

Pleidleisiodd fwyafrif llethol o dros 99% o blaid dod a gwlâu yn ôl i'r ysbyty lleol ym Mlaenau Ffestiniog ddydd Iau.

Cafodd y penderfyniad i gynnal y refferendwm ei sbarduno ym mis Ionawr, ar ôl i 1,000 o bobl fynychu cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol y Moelwyn.

Y cwestiwn a ofynnwyd oedd 'A ddylai gwlâu i gleifion, X-ray ac uned mân anafiadau fod yn rhan o unrhyw gynlluniau am ddyfodol Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog?'

Pleidleisiodd 1,688 o bobl o blaid, a 5 yn erbyn - allan o'r 3,248 o etholwyr cymwys.

Cafodd refferendwm tebyg ei gynnal ym mis Hydref dros ddyfodol ysbyty cymunedol Fflint.

Ni fydd y bleidlais yn golygu mai dyma benderfyniad terfynol y bwrdd iechyd.