Gwrthdrawiad: Pensiynwr wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 85 oed wedi marw oherwydd damwain car yn Rhondda Cynon Taf.
Bu farw'r pensiynwr ar ôl i'w gar Suzuki Swift daro wal tŷ yng Nglandâr ger Aberdâr.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth am y ddamwain ddigwyddodd am 20:17 nos Fawrth.
Mae plismyn arbenigol yn cefnogi'r teulu ac mae'r crwner wedi cael ei hysbysu.