Mwy o ymladd ceiliogod a chŵn
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiadau o ymladd ceiliogod a chŵn sydd wedi eu trefnu yng Nghymru wedi codi 57%, yn ôl ffigurau'r RSPCA.
Mae cyfanswm o 33 o ddigwyddiadau fel hyn wedi cael eu hadrodd yn 2014 tra oedd 21 yn 2010 er gwaethaf y ffaith fod ymladd anifeiliaid wedi cael ei wahardd ers 180 o flynyddoedd.
Dywedodd Prif Arolygydd yr RSPCA, Ian Briggs: "Mae'n warthus fod unigolion yn cymryd pleser wrth wylio anifeiliaid yn ymladd â'i gilydd.
"Mae'r anifeiliaid yn aml yn dioddef anafiadau erchyll ac weithiau mae rhain yn farwol."