Cyfradd hunanladdiad yng Nghymru ar ei uchaf ers 1981
- Cyhoeddwyd

Mae ffigyrau newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos cynnydd yng nghyfradd hunanladdiad yng Nghymru.
Mae'r nifer o farwolaethau ar ei huchaf yng Nghymru ers 1981, ac mae'r gyfradd yma'n uwch nac unrhyw ranbarth yn Lloegr.
Cafodd y nifer cynyddol o farwolaethau yn 2013 ei gofnodi gan ddynion, gyda'r gyfradd yn gostwng ychydig i ferched.
Mae'r data yn dangos bod y gyfradd hunanladdiad yng Nghymru yn 15.6 marwolaeth i bob 100,000 o bobl - wedi cynyddu 0 13.4 yn 2011 a 2012.
Roedd cyfanswm o 393 o hunanladdiadau yng Nghymru yn 2013 - o'i gymharu â 334 yn 2012.
Mae'r cynnydd yn nodedig i ddynion, gyda'r gyfradd yn cynyddu o 21.4 yn 2012 i 26.1 yn 2013 - 317 o farwolaethau o'i gymharu â 257.
5.8 yw cyfradd merched yng Nghymru, i lawr o 5.9 yn 2012.
Mae cyfradd hunanladdiadau yn uwch yng Nghymru na ffigwr y DU gyfan o 11.9 o farwolaethau i bob 100,000 o bobl yn 2013.