Meryl a Mags yn rhoi'r byd yn ei le
- Cyhoeddwyd

Bydd cyfle i chi rannu profiadau dwy o bileri ein cymdeithas pob wythnos ar BBC Radio Cymru cyn hir.
Bydd Mags Harries a Meryl Evans yn dod at ei gilydd i gyflwyno rhaglen fydd yn edrych ar nifer o bynciau diddorol a materion pob dydd sydd yn effeithio arnon ni gyd mewn gwahanol ffyrdd. Felly pwy yw Meryl a Mags? Aeth un o weithwyr dewr Cymru Fyw mewn i ffau'r llewod i geisio darganfod y gwir!
Ydych chi'n 'nabod eich gilydd ers hir?
Meryl: Wnaethon ni gwrdd wythnos yn ôl. Ni'n hand picked. 'O nhw'n meddwl fod nhw'n cael Meryl Streep so gaethon nhw sioc!
Mags: Ond ni'n dod ymlaen like a house on fire a wedi dod o hyd i ambell i berson a sefyllfa ni'n dwy'n gyfarwydd â nhw.
Felly beth yw'r syniad tu ôl i'r rhaglen?
Mags: Ni ddim yn siŵr. Gewn ni weld pan ewn ni mewn i'r stiwdio.
Mae'r ddwy yn chwerthin...
Meryl: Yn ôl y sôn, roedd Radio Cymru'n chwilio am raglen wahanol, naturiol llawn hiwmor, ond oedd yn defnyddio ein profiadau personol a'n personoliaethau i drafod pynciau sydd yn plesio ac yn gwylltio.
Pa fath o bethau sydd yn eich gwylltio chi?
Mags: Pobl sy'n defnyddio ffonau symudol drwy'r amser. Mae'n gwylltio fi pan ti'n siarad gyda rhywun a mae nhw'n edrych ar eu ffôns neu'n tecstio. Fydden i'n banio nhw i gyd. Mae ffrind i Phyl (y gŵr) wastad ar ei ffôn a fi wedi biti banio fe o'r tŷ cyn hyn.
Meryl: Motobeics. Fi'n casau dreifio a llwyth o fotobeics yn pasio. Ma'r sŵn yn fyddarol a rhyw ffordd ma' nhw'n codi ofn arna'i.
Hefyd, ysmygu. O'n i'n arfer casáu pan oeddwn i mewn tŷ bwyta a rhywun ar y bwrdd drws nesa'n cynnau ffag. Fydden i'n arfer dweud wrthon nhw i beidio achos o'n i'n bwyta. (Mae David ei gŵr yn nodio'i ben yn wybodus). Diolch byth fod nhw wedi banio fe weda'i.
Felly pa fath o bethau fyddwch chi'n eu trafod yn y rhaglen gyntaf?
Meryl: Byddwn ni'n ceisio cofio'r gusan gynta' ac yn trafod sut ma' arferion caru wedi newid.
Mags: A fyddwn ni'n gofyn, os yw hi fyth yn iawn i weud celwydd, ac os ydy hi, pryd?
Ond pwy yw Meryl a Mags?
Enw?
Mags Harries
Priod?
Ydw, gyda Phyl Harries yr actor. (Mae Phyl wedi bygwth gadael y wlad tra fod y rhaglen ymlaen ar y radio!)
Ffeithiau difyr amdanoch?
Fi'n qualified schoolboy rugby referee. Wnes i gystadlu yn fy eisteddfod gyntaf pan yn dair oed yng Nghasllwchwr, a ges i fy nerbyn i'r orsedd pan yn 12 oed - y person ifancaf i gael ei derbyn erioed - o dan yr enw Telynores Llwchwr.
Enw?
Meryl Evans
Priod?
Ydw gyda David. (Mae David yn nodio ei ben i gytuno)
Ffeithiau difyr amdanoch?
Roeddwn yn hoffi lacrosse yn yr ysgol, ond ddim yn hir wedi i fi ddechrau chwarae'r gêm, cafodd ei fanio. Erbyn hyn dim ond mewn ysgolion bonedd allwch chi chwarae fe.
Fi hefyd yn hoff iawn o deithio ac wedi bod i Vietnam, Gwlad Thai a Hong Kong, a gyrru ar hyd Route 66 yn America.
Gallwch wrando ar Meryl a Mags ar BBC Radio Cymru pob dydd Gwener am 12:30 gydag ail ddarllediad dydd Sadwrn am 11:30