Cyhoeddi £5m i adfywio canol trefi Cymru

  • Cyhoeddwyd
CaernarfonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Mae canol tref Caernarfon yn un o'r ardaloedd fydd yn elwa o'r cynllun

Mae'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi bod £5m ar gael i hybu canol trefi Cymru.

Fe fydd yr arian yn cael ei fenthyg i saith o awdurdodau lleol Cymru am hyd at 15 mlynedd, er mwyn iddynt ei wario ar wella canol trefi.

Y trefi i gael budd o'r cynllun fydd Tredega, Rhymni, ardal Grangetown Caerdydd, Llanelli a'r Barri yn y de, ac Y Rhyl a Chaernarfon yn y gogledd.

Yn ystod y cyfnod hwn, gall y cyngor ail-gylchu ac ail-fuddsoddi'r cyllid mewn gwahanol brosiectau sy'n anelu at wella canol y trefi a dechrau defnyddio adeiladau gwag unwaith yn rhagor.

Y gobaith yw bod gwelliannau o'r fath yn helpu i greu swyddi ac yn annog twf economaidd, yn cynyddu nifer y tai sydd ar gael yng nghanol trefi, a'u gwneud yn llefydd mwy amrywiol, bywiog a deniadol i'w hymweld.

Deniadol a hygyrch

Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd Ms Griffiths: "Mae canol trefi yn chwarae rhan hollbwysig ym mywyd y gymuned, a bydd y benthyciad hwn yn helpu i wella'r ardaloedd sydd ei angen fwyaf.

"Bydd y £5m hwn yn cael ei ddefnyddio gan y saith awdurdod lleol dros y pymtheg mlynedd nesaf i wella canol trefi ledled Cymru. Trwy sicrhau bod canol ein trefi yn fwy deniadol a hygyrch, rydym yn gobeithio cynyddu nifer yr ymwelwyr a rhoi hwb i fusnesau a chymunedau lleol."

Mae'r saith awdurdod fydd yn derbyn yr arian cymorth yn rhan o ardaloedd Cyllid Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru, ac maent wedi'u nodi fel ardaloedd sydd â lefel uchel o amddifadedd.

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag yr awdurdodau dros y misoedd nesaf i drafod sut i weithredu'r rhaglen ym mhob ardal.