Saith Diwrnod
- Cyhoeddwyd
Yr etholiad cyffredinol, 50 Shades of Grey a'r teyrngedau i Dr John Davies sydd yn cael sylw Catrin Beard yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau.
Mae gan Vaughan Roderick gyfrinach, cyfrinach, fel y dywed wrthym ar ei flog, y mae newyddiadurwyr gwleidyddol a'u cyfeillion seffolegol yn ceisio cadw'n dawel yn ei chylch, mewn ymdrech i gynnau diddordeb yn yr ymgyrch etholiad ddiddiwedd yma.
A dyma hi. Does dim byd yn digwydd. Dim. Er cymaint ymdrechion y pleidiau a holl sylw'r cyfryngau erys yr arolygon barn yn ddigyfnewid gyda Llafur a'i thrwyn ar y blaen o drwch blewyn.
Ac mae Vaughan yn dechrau amau bod cacen etholiad 2015 eisoes wedi ei phobi. Mae'r cynhwysion, cyflwr yr economi, chwalfa'r Democratiaid Rhyddfrydol, y dirmyg tuag at Miliband, twf yr SNP a'r gweddill i gyd wedi eu cymysgu a'u crasu. Oni cheir sioc fawr allanol, rhywbeth y tu hwnt i reolaeth y pleidiau, fe fydd y canlyniad a'r 8 Mai rhywbeth yn debyg i'r hyn mae'r arolygon yn awgrymu ar hyn o bryd.
Falle bod angen i ni gyd feddwl am rywbeth arall i'w wneud te. Beth am drip i'r sinema i weld y ffilm mae pawb yn sôn amdani? Falle ddim - fel y dywed Cymru Fyw wrthym, mae Sarah Reynolds wedi sgwennu llenyddiaeth erotig, ond roedd y profiad o weld Fifty Shades of Grey yng Nghaerfyrddin yr wythnos ddiwethaf ymhell o fod yn un rhywiol.
O'r 334 o seddau oedd ar gael yn y sinema, meddai, menywod oedd yn eistedd mewn tua 330 ohonynt. Roedd yn bosib i chi foddi mewn estrogen. Roedd naws y lle yn debyg i barti plu gyda phiffiadau a gwichiadau garw at bob llinell sôsi a phob un clep o'r chwip. Ac yn ôl Lowri Cooke ar ei blog, mae'n "one night stand" o ffilm y byddwch yn difaru ei phrofi: os fuoch chi'n disgwyl gweld Traed Mewn Cyffion, yna mae'n siom; mae'n nes at Te yn y Grug, ond heb stori chwarter cystal.
Ond does dim amheuaeth mai prif bwnc gwasg a blogiau'r wythnos hon yw'r teyrngedau lu i un o ffigurau mwyaf lliwgar ein hoes, Dr John Davies a fu farw ddechrau'r wythnos, ac mae gan bawb hanesyn neu atgof i'w adrodd yn tystio i'w anwyldeb a'i natur hoffus yn ogystal â mawredd ei gyfraniad i hunaniaeth a diwylliant ei genedl.
Mae Sel Jones, ar wefan Cymdeithas yr Iaith, yn cofio amdano fel ysgrifennydd cyntaf y mudiad, ond yn bwysicach na hynny, dywed, fe ysbrydolodd e genhedlaeth newydd o ymgyrchwyr iaith. Pobl sydd wedi llwyddo cadw'n hiaith yn fyw.
Yn ôl ei gyn-gydweithiwr a'i gyd-hanesydd Geraint H Jenkins yn Golwg, Cymro gwladgarol oedd John oedd yn ymhyfrydu yn hanes y genedl, ac yn hynny o beth, yn nes at Theophilus Evans ac Iolo Morganwg na'r mwyafrif o'n haneswyr modern. Nhw oedd y rhai gwreiddiol y gellid ystyried eu bod yn ysgrifennu hanes o safbwynt cenedlaethol a chenedlaetholgar. I'r graddau hynny, yn ôl yr Athro Jenkins, roedd yn un o benseiri'r Gymru fodern. Ond roedd hefyd yn llithrig ei dafod, yn llawn hiwmor ac yn hoff o ddefnyddio geiriau fel 'dichon', 'joli' neu 'hilariws' i ddiddanu cynulleidfa.
Ond efallai mai sylw byr ar ddiwedd erthygl deyrnged ar wefan golwg sy'n dal natur hwyliog a direidus y dyn.
Mae gan Osian Jones atgofion melys iawn am nosweithiau difyr yn y Cwps Aberystwyth, a barn John am ei gyd-ddyn. Iddo fe, roedd 'Pawb yn boncyrs, NEB yn boring.'