Pryder am ddyfodol meddygfa Llanwrtyd

  • Cyhoeddwyd
Trigolion yn ymgynnull ger meddygfa LlanwrtydFfynhonnell y llun, John Crompton
Disgrifiad o’r llun,
Trigolion Llanwrtyd yn protestio yn erbyn y cau

Mae trigolion tref ym Mhowys yn bryderus bod ei unig feddygfa yn cau oherwydd toriadau i gyllid y Gwasanaeth Iechyd.

Mae doctoriaid y feddygfa yn Llanwrtyd wedi ysgrifennu i'r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, yn gofyn iddo ailystyried cael gwared â'r cyllid.

Dywedon nhw y byddai rhaid i 1,200 o gleifion deithio 13 milltir i'r brif feddygfa yn Llanfair ym Muallt o fis Awst ymlaen.

'Ffyrdd newydd'

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod rhaid cael "ffyrdd newydd o gwrdd ag anghenion lleol".

"Mae Llanwrtyd yn dref wledig fawr gyda chyfran uchel o gleifion hŷn," meddai llythyr y doctoriaid.

"Heb feddygfa, fe fydd cleifion yn wynebu teithio am amser hir, hyd yn oed ar gyfer apwyntiadau syml.

"Ni fyddai teithio'n bosib i rai cleifion, yn enwedig yn y gaeaf."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Y datrysiad fydd i feddygfeydd weithio gyda'i gilydd a chyda'r byrddau iechyd ar ffyrdd newydd o gwrdd ag anghenion lleol."

Mae'r stori'n cael sylw Garry Owen ar Taro'r Post am 13.00.

Cysylltwch gyda'ch barn ar 03703 500 500 neu drwy drydar, gan ddefnyddio'r hashnod #tarorpost.