Pryder am ddiswyddiadau yn un o gyflogwyr mwyaf Ynys Môn
- Cyhoeddwyd

Mae pryder ynglŷn â'r posibilrwydd o golli nifer o swyddi yn un o gyflogwyr mwyaf Ynys Môn.
Mae arweinwyr yr undebau wedi cael eu galw i gyfarfod ar safle prosesu ieir 2 Sisters yn Llangefni ddydd Llun i drafod diswyddiadau posib.
Mae tua 800 o bobl yn gweithio ar y safle, yn cynnwys nifer o weithwyr asiantaeth.
Cadarnhaodd y cwmni bod rhai swyddi mewn perygl wrth iddo ystyried "symleiddio" y busnes i gynnal safon ei gynnyrch.