Dadorchuddio plac i undebwr llafur
- Cyhoeddwyd

Mae plac glas wedi cael ei ddadorchuddio ym mhentref Abercynon ddydd Sadwrn i gofio am yr undebwr llafur John Ewington.
Daeth John Ewington i sylw'r byd wedi iddo gwyno am y ffordd y cafodd ei drin gan ei gyflogwr, a'r gweithredu diwydianol ddaeth yn sgil ei safiad yn erbyn y cwmni rheilffordd yr oedd yn gweithio iddo.
Mae llawer yn credu fod gweithred John Ewington wedi bod yn gyfrifol am sefydlu'r Blaid Lafur fodern.
Cafodd yr achos ei adnabod fel Achos Bro Taf, ac ar y pryd fe wnaeth Cwmni Rheilfyrdd Bro Taf ddwyn achos am iawndal yn erbyn yr undeb llafur am golledion elw o achos y streic gan weithwyr oedd wedi dewis cefnogi Ewington.
Streic
Dechreuodd y streic ym mis Awst 1900, ac er iddi ddod i ben wedi pythefnos, ar ei hanterth daeth 12,000 o bobl at ei gilydd i brotestio yng Nghaerdydd.
Yn ôl y Cynghorydd John Watts, maer Rhondda Cynon Taf: "Fe chwaraeodd John Ewington, dyn distaw a swil, ran fawr mewn hanes o achos ei sefyllfa anffodus ar y pryd.''
"Bydd yn fraint fawr i mi ddadorchuddio'r plac glas i gofio amdano - un o nifer o blaciau glas sydd wedi eu lleoli ar hyd Rhondda Cynon Taf i gofio am fywydau pobl a wnaeth gyfraniad sylweddol ar gymdeithas."
Pan fu John Ewington farw yn 1935, cafodd ei ddisgrifio fel "arloeswr undebaeth llafur yng nghylchoedd y rheilffyrdd". Roedd hefyd yn ffigwr blaenllaw yn y Blaid Lafur Annibynnol ar y pryd.