Uned famolaeth: Amddiffyn penderfyniad "anodd"

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Glan Clwyd

Mae swyddogion iechyd wedi amddiffyn penderfyniad dadleuol i atal gofal meddygon ymgynghorol ar gyfer mamau newydd yn Ysbyty Glan Clwyd.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod hwn yn "benderfyniad anodd iawn" ond eu bod yn credu ei fod yn sicrhau bod mamau a babanod yn parhau i dderbyn gofal diogel.

Bydd mamau fydd yn wynebu genedigaethau cymhleth yn cael eu hanfon i Fangor neu Wrecsam o fis Ebrill ymlaen.

"Rydym yn llwyr ddeall a gwerthfawrogi y pryder sydd gan y cyhoedd am y penderfyniad hwn," meddai llefarydd ar ran y bwrdd iechyd.

Adroddiad annibynnol

"Ein gwaith ni yn awr yw egluro pam yr ydym wedi cymryd y cam anodd hwn."

Bydd uned dan arweiniad bydwragedd yn parhau yn Ysbyty Glan Clwyd ar gyfer genedigaethau arferol ond bydd y gwasanaethau obstetreg dan arweiniad ymgynghorwyr yn symud am hyd at 18 mis.

Mae'r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, wedi galw am adroddiad annibynnol am y cynlluniau tra bod ACau Dyffryn Clwyd a Gorllewin Clwyd, Ann Jones a Darren Millar, eisiau dileu'r cynllun.

Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn "bwysig iawn bod cleifion a'u teuluoedd yn cael gwybodaeth glir ar y mater pwysig iawn, heb unrhyw le i amwysedd."

Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud eu bod yn gobeithio y bydd hyd y cynllun yn "llawer llai" na'r 18 mis a amlinellwyd.

Ychwanegodd llefarydd: "Er gwaethaf ein hymdrechion gorau i gynnal gwasanaethau obstetreg ar draws ein tri ysbyty, nid yw'r sefyllfa bresennol yn caniatâu i ni barhau.

"Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i adfer y gwasanaeth obstetreg yng Nglan Clwyd a byddwn yn gweithio i wneud hyn cyn gynted ag y bo modd.

"Mae gwaith eisoes ar y gweill i ail-lunio'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol."