Dim gŵyl Wakestock eleni
- Published
Mae'r tîm y tu ôl i Wakestock Gŵyl y Môr wedi penderfynu na fydd yr ŵyl yn cael ei gynnal yn 2015.
Fe wnaeth y cwmni tu ôl i'r ŵyl gyhoeddiad ar eu tudalen Facebook gan ddweud: "Ar ôl i'r ŵyl fod yn llwyddiant ers 14 mlynedd, rydym yn teimlo ei bod yn amser da i gymryd blwyddyn i ffwrdd a gweithio ar ddatblygiad yr ŵyl ar gyfer y dyfodol."
Ers sawl blwyddyn bellach, mae'r ŵyl gerddoriaeth wedi bod yn cael ei chynnal ym Mhenrhos, rhwng Pwllheli ag Abersoch, a'r campau tonfyrddio ym Marina, Pwllheli.
Ar hyd y blynyddoedd, mae nifer o artistiaid rhyngwladol wedi perfformio yn yr ŵyl, gan gynnwys Dizzee Rascal, Ed Sheeran a Mark Ronson, yn ogystal â rhai o artistiaid amlycaf Cymru fel Y Super Furry Animals, Yr Ods a Cowbois Rhos Botwnnog.
Yn ôl y trefnwyr, maent eisoes wedi dechrau gweithio ar yr ŵyl yn 2016, ac yn edrych ymlaen at ddod yn ôl ar ôl eu gorffwys eleni.