Achub bachgen o geunant ger Pontypridd
- Cyhoeddwyd

Cafodd y bachgen ei gludo i'r ysbyty ar ôl y digwyddiad
Mae'r gwasanaeth tân ac achub wedi achub bachgen 11 oed o geunant yn Nhon-teg ger Pontypridd.
Y gred yw, nad yw'r bachgen wedi ei anafu, ond bu'n sownd mewn mwd dwfn .
Fe ddisgynodd i'r ceunant sydd yn 40 troedfedd o ddyfnder.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i'r digwyddiad ger Lansdale Drive yn Nhon-teg ychydig ar ôl 15:45 ddydd Gwener .
Cafodd criwiau o Bontypridd, Y Barri, a Bro Morgannwg eu galw i'r digwyddiad.
Roedd y bachgen yn gaeth mewn mwd dwfn yn y ceunant.