Treviso 40 Gleision Caerdydd 24

  • Cyhoeddwyd
Mark HammettFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mark Hammett, Cyfarwyddwr rygbi'r Gleision, yn gweld ei dim yn colli yn yr Eidal

Treviso 40 Gleision Caerdydd 24

Mae'n ymddangos bod Cyfarwyddwr rygbi'r Gleision yn paratoi i adael y rhanbarth - chwe mis yn unig ar ôl iddo gyrraedd Parc yr Arfau.

Mae BBC Cymru yn deall bod yr hyfforddwr o Seland Newydd yn barod i adael y clwb, ac mae disgwyl datganiad gan y rhanbarth yn ystod y dyddiau nesaf.

Yn yr Eidal heno roedd tîm Hammett ar ei 'hol hi o'r cychwyn mewn gem agored dros ben.

Sgoriodd Treviso bedwar cais yn yr hanner cyntaf, ond er i Gaerdydd daro nôl, ac ymosod am gyfnodau hir yn ystod yr ail hanner, roedd yr ymdrech yn ofer.

Fe ddaeth tri chais i'r Gleision - gan Lloyd Williams, Josh Navidi a Adam Thomas.

Ond roedd gwaith amddiffynnol y Gleision yn rhy wan yn erbyn ymosod uchelgeisiol Treviso.

Mae'r canlyniad yn golygu mai dim ond pedair buddugoliaeth sydd gan y Gleision yn y Pro 12 y tymor hwn.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency