Arlunydd o Sir Benfro wedi marw yn 83 oed
- Cyhoeddwyd

Fe symudodd John Knapp-Fisher i Sir Benfro yn 1967.
Mae'r artist o Sir Benfro, John Knapp-Fisher wedi marw yn 83 oed.
Yn adnabyddus am ei ddefnydd o olew a dyfrlliw, mae nifer o'i waith wedi eu hysbrydoli gan olygfeydd yn ne-orllewin Cymru.
Fe'i ganed yn Llundain yn 1931, a symudodd i orllewin Cymru yn y 1960au.
Dywedodd ei deulu fod Mr Knapp-Fisher wedi marw yn Ysbyty Cyffredinol Llwyn Helyg yn Hwlffordd ar ôl bod yn wael ers peth amser, ond roedd wedi parhau i baentio a braslunio tan yn ddiweddar.
Yn fab i bensaer, bu'n astudio celf a dylunio graffeg yn y coleg.
Yn ystod ei 20au daeth yn ddylunydd set theatr ond gadawodd y rôl honno i ddilyn ei gariad gelfyddyd gain.
Yn 1992 cafodd ei ethol yn aelod o Academi Frenhinol Gymreig.