Toriadau i uned mamolaeth: Dros 1,500 yn protestio
- Cyhoeddwyd

Mae dros 1,500 o bobl wedi protestio yn Y Rhyl, yn erbyn y penderfyniad o israddio gofal mamolaeth mewn ysbyty yng ngogledd Cymru.
Daeth y bobl ynghyd ddydd Sadwrn er mwyn protestio yn erbyn y newidiadau yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Sir Ddinbych.
Fe fydd gofal mamolaeth ymgynghorol yn cael ei dynnu o Ysbyty Glan Clwyd am rhwng 12 a 18 mis tan i'r gwasanaeth iechyd allu mynd i'r afael â phryderon staffio.
Yn sgil y newidiadau, fe fydd yn rhaid i ferched beichiog ar draws gogledd Cymru deithio i Fangor neu Wrecsam os ydyn nhw'n wynebu trafferthion wrth roi genedigaeth.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dr Peter Higson: "Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth yn ddiogel, ond y pryder yw nad yw'n gynaliadwy."
Dywedodd trefnydd y brotest, Marsha Davies: "Os caiff y bwrdd eu ffordd, dim ond hanner ysbyty fydd yma mewn cwpl o fisoedd."
Mae'r newidiadau yn dod i rym ar 6 Ebrill..
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2015