Abertawe 2 - 1 Man U
- Cyhoeddwyd

Ki Sung-yueng roi'r bel yng nghefn rhwyd Manchester United
Dim ond yr ail gêm ers mis Tachwedd i Manchester United gael eu trechu yn yr Uwch Gynghrair, diolch i gôl hwyr gan Bafetimbi Gomis, a sicrhaodd fuddugoliaeth i Abertawe.
Fe lwyddodd ergyd gan Anders Herrera i roi'r ymwelwyr ar y blaen yn yr hanner cyntaf, ond ymatebodd y tîm cartref ar unwaith wrth i Ki Sung-yueng roi'r bel yng nghefn eu rhwyd ddau funud yn ddiweddarach.
Er i dim Louis van Gaal reoli'r chwarae yn yr ail hanner, ni ddaeth y gôl yr oeddynt ei hangen.
Fe lwyddodd ergyd gan Gomis ar ôl 75 munud i sicrhau'r dwbl cyntaf i'r Elyrch dros Manchester United yn yr Uwch Gynghrair.
Nid yw'r canlyniad yma wedi bod yn llesol i obeithion Manchester United i gyrraedd Cynghrair y Pencampwyr tymor nesaf.
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Trafodaeth ddofn rhwng Rheolwr Manchester United a'i ddirprwy.