Gwobrau'r Selar 2015

  • Cyhoeddwyd
selar

Ywain Gwynedd, Candelas a Sŵnami oedd prif enillwyr Gwobrau'r Selar a gynhaliwyd yn Aberystwyth nos Sadwrn.

Dyma'r drydedd flwyddyn i gylchgrawn Y Selar gynnal digwyddiad i ddathlu llwyddiant cerddoriaeth gyfoes Gymraeg.

Cipiodd cyn ganwr Frizbee, Ywain Gwynedd, dair gwobr sef 'Artist Unigol Gorau', 'Cân Orau' am y trac 'Neb ar Ôl', a 'Record Hir Orau am ei albwm unigol cyntaf Codi/Cysgu.

Gadawodd Sŵnami gyda dwy wobr - 'Record Fer Orau' am eu sengl ddwbl 'Cynnydd / Gwenwyn', a 'Fideo Gorau' am 'Gwenwyn'.

Roedd yn noson llwyddiannus hefyd i Candelas, oedd yn cloi'r noson, wrth iddyn nhw gipio gwobrau 'Gwaith Celf Gorau' ac efallai prif deitl y noson, 'Band Gorau'.

Parti Cofiadwy

Daeth canoedd o bobl ynghyd i ddathlu gyda'r enillwyr, ac mae'r trefnwyr yn teimlo fod Gwobrau'r Selar eleni wedi bod yn ddigwyddiad cofiadwy unwaith eto.

Dywedodd Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone: "A hithau'n drydedd flwyddyn i ni gynnal Gwobrau'r Selar fel digwyddiad byw, does dim amheuaeth ei fod wedi cydio yn nychymyg pobl, a bod yr artistiaid a'r gynulleidfa'n gweld hwn fel un o uchafbwyntiau cerddorol y flwyddyn.

"Mae'r ffaith mai'r gynulleidfa sy'n dewis yr enillwyr yn y bleidlais gyhoeddus yn golygu bod ganddyn nhw berchnogaeth dros yr holl beth a dwi'n credu bod hynny'n ffactor amlwg yn llwyddiant y digwyddiad.

"Unwaith eto eleni roedd nifer o fysus yn llawn o bobl yn teithio i Aber, ac mae'n arwydd da iawn bod criwiau o bobl ifanc yn fodlon teithio o Ynys Môn, Caerdydd, Sir Benfro a thu hwnt er mwyn dod i ddigwyddiad fel hwn"

Disgrifiad o’r llun,
Candelas gipiodd y teitl 'Band Gorau' yn 2015.

Rhestr lawn enillwyr Gwobrau'r Selar:

Record Fer Orau - Cynnydd / Gwenwyn - Sŵnami

Cân Orau - Neb ar Ôl - Ywain Gwynedd

Gwaith Celf Gorau - Bodoli'n Ddistaw - Candelas

Hyrwyddwyr Gorau - 4 a 6

Cyflwynydd Cerddoriaeth Gorau - Lisa Gwilym

Artist Unigol Gorau - Ywain Gwynedd

Digwyddiad Byw Gorau - Maes B, Eisteddfod Llanelli

Fideo Cerddoriaeth Gorau - Gwenwyn - Sŵnami

Record Hir Orau - Codi /Cysgu - Ywain Gwynedd

Band neu Artist Newydd Gorau - Ysgol Sul

Band Gorau - Candelas

Offerynnwr Gorau - Lewis Williams (Sŵnami / Candelas)