Llanw uchel: Rhybudd llifogydd yn parhau
- Cyhoeddwyd

Roedd llanw uchel yn achosi i'r môr dasgu ar y ffordd yng Nghricieth
Mae rhybuddion llifogydd yn parhau ar draws Cymru wrth i lanw'r môr godi'n uwch na'r arfer.
Mae disgwyl i'r rhybuddion barhau hyd nes ddydd Llun.
Mae rhybuddion mewn lle ar gyfer sawl ardal ger arfordir Cymru, gan gynnwys aber y Ddyfrdwy, Sir Fôn, Bae Abertawe, Penrhyn Gŵyr, Sir Benfro, Ceredigion, Pen Llŷn a Bae Ceredigion.
Fe gyrhaeddodd llanw'r Gwanwyn frig o 18 a hanner dros y penwythnos.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio gall yr "amodau peryglus" dorri amddiffynfeydd môr ac afonydd ac felly yn gofyn i bobl i fod yn wyliadwrus.
Roedd y llanw yn uwch na'r arfer ym Mhort Penrhyn ger Bangor.