80 o ddiffoddwyr yn delio gyda thân yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae pobl yn gorfod gadael eu cartrefi yng Nghaerdydd wrth i wasanaethau brys ddelio gyda thân yn ardal Adamsdown.
Cafodd gwasanaethau brys eu galw i'r adeilad diddefnydd ar Stryd Pearl am 12:30pm a dywedodd yr heddlu bod tua 80 o ddiffoddwyr wedi eu galw i'r safle.
Mae criwiau o Gaerdydd, y Barri, y Rhath, yr Eglwys Newydd, Caerffili a Threlái ar y safle.
Mae achos y tân dan ymchwiliad.
Mae to'r adeilad wedi dymchwel, ac fe fydd arolygwyr yn asesu pa mor ddiogel yw hi i fynd i mewn iddo.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn helpu i symud pobl o'u tai yn yr ardal, a bod ffyrdd ar gau i geir a cherddwyr.
Ffynhonnell y llun, @rosprotheroe