Teyrngedau i John Rowlands
- Cyhoeddwyd

Yn 76 oed, bu farw'r nofelydd, academydd a beirniad llenyddol John Rowlands yn ei gartref ger Caernarfon ddydd Llun.
Yn wreiddiol o Drawsfynydd, fe raddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor yn 1959, a bu'n ddarlithydd ym mhrifysgolion Abertawe, Coleg y Drindod Caerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan ac yn Athro yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.
Dywedodd y darlithiwr ac awdur T. Robin Chapman o Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Ysgytwad i bawb yn yr Adran oedd clywed y newydd am farw John, a buom wrthi drwy'r dydd yn cofio am ein gwahanol brofiadau personol ohono. Cytunem ar un peth: collasom ffrind yn ogystal â chydweithiwr.
"Gallai sawl un ymffrostio'n gwbl gyfiawn mewn cyfran fechan o'i gyraeddiadau. Roedd yn bianydd dawnus - cofir yn hir gan bawb amdano'n cyfeilio'r canu mewn partïon Nadolig adrannol. Gwyddai am fwyd a gwin. Roedd yn nofelydd arloesol - bron yr unig enghraifft o'r Angry Young Men mewn llenyddiaeth Gymraeg ar ddechrau ei yrfa ac yn feistr ar gomedi a thrasiedi wedi hynny.
"Roedd yn feirniad beiddgar a ddysgodd genedlaethau o fyfyrwyr i edrych y tu hwnt i bersonoliaeth yr awdur i ganolbwyntio ar y geiriau ar ddu a gwyn yn eu cyd-destun hanesyddol. Roedd yn olygydd manwl-gywir a chreadigol roddai sglein ar bopeth a aeth drwy'i ddwylo. Fel darlithydd ac athro, roedd yn fawr ei ddylanwad ar ddwsinau o lenorion ac academyddion amlwg.
"Roedd hefyd, wrth gwrs, yn ŵr ac yn dad - ac mae ein cydymdeimlad heddiw gydag Eluned ei wraig a'r teulu oll".
Roedd John Rowlands yn feirniad llenyddol dylanwadol, ac yn gyfrifol am ysgrifennu saith o nofelau, gan gyhoeddi ei nofel gyntaf, 'Lle Bo'r Gwenyn', yn 1960.
Yn dilyn ei ymddeoliad yn 2003 roedd wedi cydweithio gydag Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, gan ddarlithio mewn ysgrifennu creadigol.
"Cyfraniad enfawr"
Wrth roi teyrnged iddo ar raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru, dywedodd Dr Angharad Price o Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor: "Y peth pennaf amdano oedd mor hoff oedd ei fyfyrwyr ohono fo.
"Mi oedd o'n eithriadol o garedig fel tiwtor, yn hynod o gefnogol ac yn barod iawn i gefnogi pobl oedd yn mentro torri dros y ffiniau.
"Gan mai fo oedd y prif awdurdod ar nofelau Cymraeg yn y degawdau ers y saithdegau, doedd o byth yn un i ganu ei glodydd ei hun, wedyn doedd o byth yn sôn am ei waith creadigol ei hun. Mae'n sicr yn amser i rywun arall fwrw golwg dros ei nofelau.
"Fe wnaeth o gyfraniad enfawr fel beirniad llenyddol. Mae'n mynd i fod yn golled enfawr ar ei ôl."
Yn ogystal â bod yn ddylanwad blaenllaw yn y byd llenyddol, roedd yn gogydd dawnus ac yn gyfrifol am ysgrifennu adolygiadau bwyd yng nghylchgrawn Barn.
Gyda'i wraig Eluned roedd yn rhedeg bwyty gwely a brecwast o'u cartref yn Y Goeden Eirin yn Nolydd ger Caernarfon.
Presenoldeb "pwysig iawn"
Dywedodd Menna Baines, cyd-olygydd cylchgrawn Barn: "Roedd John yn un o gyfranwyr mwyaf cyson Barn. Mi fyddai'n sgrifennu'n gyson inni am lefydd bwyta a hefyd am win.
"Mi fyddai hefyd yn adolygu llyfrau inni yn gyson, ac mi fyddai ei adolygiadau bob amser yn werth eu cael - yn dreiddgar, yn onest, ond yn adeiladol hefyd.
"Ar lwyfan ehangach roedd o'n awdur ei hun, wrth gwrs, yn nofelydd blaengar a mentrus, a hefyd yn ddarlithydd uchel ei barch a wnaeth ysbrydoli dwsinau o fyfyrwyr, yn enwedig yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth lle'r oedd ei ddarlithoedd ar ysgrifennu creadigol yn chwedlonol.
"Mae'n siwr fod ei ddylanwad yn fawr ar nifer o'n llenorion cyfoes ni a fu yn fyfyrwyr efo fo yn Aber. Drwy hynny a thrwy ei ysgrifau beirniadol ei hun, a'r cyfrolau o ysgrifau beirniadol y gwnaeth o eu golygu, roedd o'n bresenoldeb pwysig iawn yn y tirlun llenyddol Cymreig. Mi fydd yn cael ei gofio fel anogwr a dehonglwr agored iawn ei feddwl".
"Hael, cytbwys a chraff"
Dywedodd Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru Elfed Roberts: "Roedd John yn feirniad rheolaidd yn yr Eisteddfod, ac yn un a oedd bob amser yn hael, cytbwys a chraff. Yn ddi-os, bu'n hwb mawr i genhedlaeth o Gymry a oedd yn cychwyn ar eu gyrfa lenyddol, fel beirniad yn y Genedlaethol ac fel athro prifysgol.
"Bydd colled fawr ar ôl John, a byddwn yn gweld ei eisiau, nid yn unig yn broffesiynol ond fel cyfaill i'r Gymraeg a'n diwylliant hefyd."
Mae John Rowlands yn gadael tri o blant - Huw, Dyfed a Sioned.
Roedd wedi bod yn dioddef o liwcemia.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2015