2 Sisters: 300 o swyddi yn y fantol?

  • Cyhoeddwyd
2 sisters Llangefni
Disgrifiad o’r llun,
Undeb: y newyddion 'ddim yn addawol'

Mae swyddogion undeb Unite yn dweud y gallai hyd at 300 o bobl golli eu swyddi yn ffatri brosesu cig 2 Sisters yn Llangefni.

Yn ôl swyddog rhanbarthol yr undeb, Paddy McNaught, mae'r cwmni'n bwriadu gostwng nifer yr adar sy'n cael eu lladd a'u prosesu ar y safle o 420,000 i 275,000 bob wythnos.

Wedi cyfarfod ddydd Llun fe ddywedodd: "Dydy o ddim yn newyddion addawol iawn.

"Dw i'n meddwl fod y cwmni heddiw wedi egluro'r sefyllfa ryw fymryn o ran niferoedd.

"'Dan ni dal yn credu y gallen ni weld hyd at 300 o bobl yn gadael y busnes yma yn Llangefni.

"Mae ganddon ni tua 201 o weithwyr asiantaeth - ac ar sail y cyfarfod heddiw 'dan ni'n credu y byddan nhw'n mynd - yn ogystal â 106 o weithwyr uniongyrchol."

Ychwanegodd Mr McNaught fod ysbryd y staff "yn isel iawn, iawn."

Fodd bynnag, meddai, gan nad yw'r cwmni wedi colli unrhyw gytundebau, mae'r undeb yn ffyddiog y gall gefnogi gweithwyr a gostwng y nifer sydd wedi eu heffeithio.

Ddydd Gwener, cadarnhaodd y cwmni bod rhai swyddi mewn perygl wrth iddyn nhw ystyried "symleiddio" y busnes i gynnal safon ei gynnyrch.