Traean yn methu ymdopi â symptomau clefydau hir dymor
- Cyhoeddwyd

Mae bron i un ym mhob tri o oedolion Cymru yn cael trafferth ymdopi â symptomau clefydau hir dymor, yn ôl astudiaeth newydd.
Daeth ymchwilwyr o Brifysgol Heriot-Watt yng Nghaeredin i'r casgliad mai rheiny â chyflyrau iechyd meddwl neu niwrolegol sydd leia' tebygol o fod wedi datblygu ffyrdd o fyw â'u clefydau.
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu eu bod yn gweithio i sicrhau bod pob claf yn derbyn cynllun gofal personol ar gyfer cyflyrau cronig.
Mae'r astudiaeth, gafodd ei chyhoeddi yn yr International Journal of Cardiology, yn defnyddio data o arolwg cenedlaethol diweddar ynglŷn ag iechyd y genedl, wnaeth holi 15,687 o oedolion.
Fe nododd bron i 30% eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd ymdopi â'r poenau meddyliol a chorfforol oedd yn deillio o gyflwr cronig, gyda 10% yn nodi symptomau o iselder neu orboeni oedd heb eu trin.
Fe nododd 20% eu bod wedi dod o hyd i ffyrdd o fyw gyda'u cyflyrau.
'Cydgysylltu gwael'
Mae cyflyrau cronig yn effeithio ar oddeutu 800,000 o bobl yng Nghymru ac yn broblem gynyddol i'r Gwasanaeth Iechyd wrth i'r boblogaeth heneiddio.
Ym mis Mawrth 2014, fe rybuddiodd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru bod gwasanaethau ar gyfer cleifion â chyflyrau cronig yn "ddarniog ac wedi'u cydgysylltu'n wael".
Fe ddywedodd Dr Ivy Shiue, awdur yr ymchwil gan Brifysgol Heriot-Watt, ei bod wedi penderfynu canolbwyntio ar Gymru gan fod arolwg iechyd Llywodraeth Cymru yn darparu'r data oedd angen arni, yn wahanol i arolygon tebyg yn Lloegr a'r Alban.
"Mae 'na dystiolaeth bod pobl sydd heb ddysgu sut mae byw â symptomau sy'n deillio o salwch yn profi ansawdd bywyd sy'n sylweddol is, ac mae'r risg o hynny'n arbennig i rheiny sydd â chyflyrau iechyd meddwl," meddai.
Yn ôl Dr Shiue, fe allai buddsoddi mewn strategaethau sy'n helpu cleifion reoli eu salwch wella'r sefyllfa.
Dywedodd hi: "Mae dysgu byw gyda symptomau yn sgil sydd angen ei feithrin a'i ymarfer. Fe fyddai codi ymwybyddiaeth o raglenni sy'n helpu cleifion yn y maes yma yn lleihau'r poenau meddyliol a chorfforol sy'n caethiwo cynifer yn sylweddol."
'Datblygu cynllun'
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae pobl sy'n byw â chyflyrau hir dymor yn gallu gweld budd o weithio gyda staff y gwasanaeth iechyd i ddatblygu cynllun gofal personol sy'n cynnwys targedau sydd wedi'u cytuno ar y cyd i reoli eu hiechyd.
"Gall hyn hefyd eu helpu i ddod i wybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw gan y gwasanaeth iechyd a chyrff gwirfoddol.
"Rydym ni wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer staff y gwasanaeth iechyd ynglŷn â chynlluniau gofal ac rydyn ni'n gweithio hefyd ar lawlyfr ar gyfer cleifion, fydd yn cael ei gyhoeddi yn y pen draw."