Traean yn meddwl bod mewnfudo yn cael effaith negyddol

Ffin y DU Image copyright PA

Mae arolwg gan BBC Cymru o dros 1,000 o bobl yn dangos bod traean ohonynt yn meddwl bod mewnfudo wedi cael effaith negyddol ar swyddi a'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae'r arolwg, a wnaed ar gyfer rhaglen Week In Week Out, yn datgelu bod mwy o bobl yn meddwl bod mewnfudo wedi cael effaith negyddol ar swyddi a'r Gwasanaeth Iechyd na phositif, gydag ychydig dan hanner yn dweud nad yw wedi gwneud gwahaniaeth.

Roedd chwarter y bobl a holwyd hefyd yn meddwl bod mewnfudo wedi cael effaith negyddol ar addysg.

Mae disgwyl y bydd mewnfudo yn destun dadleuol yn yr ychydig fisoedd sy'n weddill cyn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

'Newid i UKIP'

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar Ferthyr Tudful, sydd wedi gweld y twf mwyaf ym mhoblogaeth mewnfudwyr yng Nghymru.

Mae Peter James, peintiwr a phapurwr o'r dref, yn dweud ei fod mor bryderus am effaith mewnfudo ar y dref, ei fod nawr yn meddwl am bleidleisio dros UKIP.

Image caption Mae Peter James yn meddwl am bleidleisio dros UKIP oherwydd ei bryder am effaith mewnfudo

"Mae llawer o bobl o Wlad Pwyl, Portiwgal a phobl eraill yn dod i'r dref mewn niferoedd mawr," meddai.

"Pe bai chi'n mynd i Ferthyr a gwrando ar yr iaith, rydych chi'n clywed llawer mwy o dramor na Saesneg neu Gymraeg y dyddiau yma.

"Rydw i wedi bod yn bleidleisiwr Llafur erioed, yn dod o dref o weithwyr, ond mae UKIP wedi cyflwyno polisi eu bod nhw eisiau ei ddatrys."

10% o'r gweithlu

Credir bod poblogaeth gweithwyr ymfudol o dros 80,000 yng Nghymru, sy'n 10% o'r gweithlu. Mae nifer o'r mewnfudwyr wedi dod yma i weithio yn y diwydiant bwyd.

Mae KK Fine Foods - cwmni o Lannau Dyfrdwy sy'n cyflogi nifer o weithwyr ymfudol - yn ymddangos yn y rhaglen.

Dywedodd y perchennog Leyla Edwards bod gweithwyr ymfudol wedi helpu ehangu ei busnes o 35 i 255 o weithwyr.

Image caption Dywedodd Leyla Edwards bod gweithwyr ymfudol wedi helpu ehangu ei busnes o 35 i 255 o weithwyr

"Mi wnaethon ni adeiladu ffatri hardd, gydag offer modern - y pethau delfrydol ar gyfer cynhyrchu," meddai.

"Y broblem oedd, gan fod y busnes yn tyfu, roedd gennym ni ffatri newydd ond dim gweithlu - roedd rhaid i ni ei gynyddu. Mi wnaethon ni hysbysebu yn y ganolfan waith ac yn y papurau lleol, ond doedden ni methu cael neb."

Mewnfudwyr Cymraeg?

Hefyd yn ymddangos ar y rhaglen mae Szymon a Sonia Taisner, o Wlad Pwyl. Daethon nhw i Gymru i weithio yn Llanybydder, Caerfyrddin, am chwe mis - ac maen nhw wedi bod yma am 10 mlynedd bellach. Mae Llanybydder nawr yn gartref iddyn nhw, ac mae eu merch, Olivia, yn mynd i'r ysgol Gymraeg lleol.

Dywedodd Sonia: "Mae'n ysgol fach, ysgol gyfeillgar, felly dyna ble wnaethon ni ddewis y dylai hi aros, a dysgu Cymraeg.

"Pan ydyn ni'n mynd i'r siop leol yma, mae'r merched bob tro'n siarad Cymraeg ag Olivia, ac maen nhw'n hapus iawn ei bod yn gallu siarad Cymraeg."

Image caption Mae merch Szymon a Sonia Taisner, Olivia, yn mynd i ysgol Gymraeg ac yn siarad yr iaith

Er bod canlyniadau'r arolwg yn datgelu bod pryder am effaith mewnfudo ar wasanaethau cyhoeddus fel iechyd ag addysg, does dim ffigyrau swyddogol yn cael eu cadw yng Nghymru am y defnydd mae mewnfudwyr yn ei wneud o'r Gwasanaeth Iechyd. Mae ymchwil yn Lloegr yn awgrymu y gallai hyn fod yn llai na 1% o gyfanswm cyllid y gwasanaeth.

Ond mae ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu bod mewnfudo wedi cael effaith ar rai gwasanaethau, fel addysg. Mae dros 30,000 o blant yng Nghymru nawr yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, gyda Llywodraeth Cymru yn gwario £10m y flwyddyn i helpu ariannu'r staff ychwanegol sydd ei angen.

'Week In Week Out: The Truth About Immigration in Wales', Nos Fawrth,10.35yh, BBC One Wales.