Bwrdd Caerdydd yn boicotio gêm Wigan
- Cyhoeddwyd

Mae pob aelod o fwrdd clwb pêl-droed Caerdydd yn dweud y byddan nhw'n boicotio'r gêm yn Wigan nos Lun - mewn protest yn erbyn clwb mae'n nhw'n honni sy'n cael ei berchnogi a'i reoli gan bobl hiliol.
Mae'r BBC wedi cael arddeall fod perchennog Caerdydd, Vincent Tan wedi gofyn i gyfarwyddwyr beidio â theithio i'r gêm, ac mae'n debyg fod y bwrdd yn cefnogi ei benderfyniad.
Yn ddiweddar, fe gafodd perchennog Wigan, Dave Whelan ei wahardd rhag ymgymryd ag unrhyw weithgareddau ym maes pêl-droed am chwe wythnos, a chafodd ddirwy o £50,000 am wneud sylwadau hiliol am Iddewon a phobl o Tsieina.
Er hyn, dywedodd y comisiwn disgyblu eu bod nhw'n "fodlon nad yw Whelan yn berson hiliol" ac nad oedd wedi bwriadu tramgwyddo unrhywun.
Fe wnaeth y dyn 78 oed y sylwadau pan oedd yn amddiffyn ei benderfyniad i benodi Malky Mackay yn rheolwr ym mis Tachwedd.
Mae'r FA yn ymchwilio i ymddygiad Mackay wedi honiadau iddo anfon negeseuon testun "hiliol a homoffobig" yn ystod ei amser wrth y llyw yng Nghaerdydd.
Fe gyfaddefodd yr Albanwr ei fod wedi anfon negeseuon sarhaus, ac ymddiheuro, gan ddweud nad ydy o'n berson hiliol na homoffobig.
Fe gafodd Mackay ei ddiswyddo gan yr Adar Gleision ym mis Rhagfyr 2013.
Fe wrthododd Wigan wneud sylw.