Bachgen ar goll ers wythnos
- Cyhoeddwyd

Fe aeth Cameron ar goll tra'n chwarae efo'i frawd ddydd Mawrth
Wythnos wedi iddo syrthio i'r Afon Tywi, mae'r chwilio'n parhau am fachgen 11 oed o Gaerfyrddin.
Does neb wedi gweld Cameron Comey ers iddo fod yn chwarae gyda'i frawd bach ger yr afon bnawn Mawrth, Chwefror 17.
Mae timau chwilio wedi bod yn gweithio ers hynny i ddod o hyd i'r bachgen.
Mae gwasanaethau arbennig wedi eu cynnal yn ysgol Cameron, a daeth tua 350 o bobl i oleuo canhwyllau o obaith mewn gwylnos dros y penwythnos.
Daeth 350 o bobl i'r wylnos ddydd Sul
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2015
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2015