GCEM y gyfrifol am garchar Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
carchar Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,
Delwedd artist o'r carchar, sydd i fod i agor yn 2017

Fe fydd y carchar newydd yn Wrecsam yn cael ei redeg gan Wasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi.

Fe wnaeth y Gweinidog Carchardai, Andrew Selous, y cyhoeddiad fore Llun yn y Senedd yn San Steffan.

Yn ôl y gweinidog, bydd y carchar, sydd i fod i agor yn 2017, yn cael ei redeg "gan ddefnyddio dull newydd, arloesol".

Bydd Gwasanaeth Carcharai Ei Mawrhydi yn berchen ar y carchar yn gyffredinol, ond bydd 34% o wasanaethau'r carchar yn dod o'r tu allan - gan cynnwys gweithdy diwydiannol mawr.

Bwriad y model newydd yma yw dod â'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol at ei gilydd er mwyn darparu'r amgylchedd gorau i leihau ail-droseddu.

Mae'r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ac mae'r bloc tai cyntaf i fod i ddechrau cymryd carcharorion yn nechrau 2017.

'Arloesol'

Dywedodd y Gweinidog Carchardai Andrew Selous:

"Rwyf yn falch o gyhoeddi y bydd y carchar newydd yng Ngogledd Cymru yn cael ei weithredu gan Wasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi fel rhan o ddull newydd arloesol o redeg carchardai.

"Mae'r cyfuniad o feincnodi a chael gwasanaethau o'r tu allan yn arbed tua £300 miliwn o arian y trethdalwyr bob blwyddyn, a bydd yn ein galluogi i ddarparu carchar effeithlon iawn yn Wrecsam, sydd wedi'i seilio ar yr ymarfer gorau o agor carchardai blaenorol.

"Mae'r carchar yn adlewyrchu llwyddiant ein diwygiadau wrth helpu i greu ystâd carchardai cost isel a modern, ac mae'n rhoi hwb i economi Gogledd Cymru, gan fod £1.1miliwn eisoes wedi'i neilltuo i gwmnïau lleol - ymhell o flaen y targed o £250,000 ar gyfer 2014."

'Hwb enfawr'

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:

"Bydd y carchar newydd yn Wrescam yn rhoi hwb enfawr i Ogledd Cymru gan greu cyfleoedd i fusnesau lleol a chreu cannoedd o swyddi yn yr ardal.

"Mae hyn i gyd yn rhan o'n cynllun tymor hir i helpu i adfer cydbwysedd yr economi a buddsoddi mewn seilwaith o safon byd-eang ar hyd a lled y wlad."

Cyngor

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones ar ran Cyngor Wrecsam: "Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Gwasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi ynghŷd â'n partneriaid i sicrhau fod Carchar Gogledd Cymru yn cyflenwi manteision positif i'r economi yn lleol ac i adferiad drwgweithredwyr.

"Hyd yma mae'r gwaith adeiladu wedi cyfrannu o leiaf £1.1m i'r economi leol ac mae dros 80% o'r swyddi yn lleol. Rydym yn cydweithio gydag asiantaethau partneriaethol i sicrhau fod Carchar Gogledd Cymru yn gwneud cyfraniad go iawn i'r gostyngiad mewn ail-droseddu drwy gyfrannu cefnogaeth i'r carcharorion yn ystod ac wedi eu cyfnod dan glo."