BBC Cymru Fyw

Cyfaddef llofruddio bardd

Published
image copyrightCopyright of South Wales Argus
image captionAnne Jackson, oedd yn ysgrifennu dan yr enw Anne Cluysenaar

Mae dyn wedi cyfaddef llofruddio bardd 78 oed yn Sir Fynwy y llynedd.

Mae Timothy Jackson, 48 o Sheffield, wedi cyfaddef lladd ei lys-fam Anne Jackson - yn wreiddiol o Wlad Belg ac yn ysgrifennu dan yr enw Anne Cluysenaar - yn ei chartref ger Brynbuga.

Fe gafodd Ms Jackson, oedd hefyd yn athrawes ysgrifennu creadigol, ei chanfod wedi ei thrywanu fis Tachwedd y llynedd.

Fe glywodd Llys y Goron Caerdydd fod Ms Jackson a'i gŵr, Walter wedi dathlu 39 mlynedd o briodas ddiwrnod cyn y digwyddiad.

Cafodd Mr Jackson ei gadw yn y ddalfa, a chafodd ei rybuddio y byddai'n treulio cyfnod hir dan glo.

image copyrightHeddlu Dyfed Powys
image captionBydd Timothy Jackson yn cael ei ddedfrydu fis nesa'