Pedwar newid yn nhîm Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi pedwar newid i dîm rygbi Cymru fydd yn wynebu Ffrainc ym Mharis ddydd Sadwrn.
Bydd George North a Samson Lee yn dychwelyd i'r pymtheg wedi anafiadau, ond mae Liam Williams yn cadw'i le ar draul Alex Cuthbert, ac mae Luke Charteris wedi cael ei ddewis yn yr ail reng yn hytrach na Jake Ball.
Fe fydd Sam Warburton yn gapten ar ei wlad am y 33ain tro gan ddod yn gyfartal â record Ryan Jones.
Dywedodd Gatland: "Mae gennym ddyfnder yn yr ail reng...mae'n gyfle i Luke Charteris gael dechrau ac rydym wedi ein plesio gan Bradley Davies hefyd.
"Dim byd yn erbyn Jake Ball, ond mae hwn yn gyfle i ni gael gweld y ddau arall.
"Mae'n gyfle i Scott Baldwin ddechrau fel bachwr hefyd, a'r tro diwethaf iddo wneud hynny yn erbyn De Affrica fe aeth pethau'n dda.
"Roedd y dewis yn y tri ôl yn anodd iawn, ond rydym wedi penderfynu mynd gyda Liam a George.
"Fe wnaethon ni wella yn erbyn yr Alban ac mae angen gwelliant arall y penwythnos yma. Mae'n gystadleuaeth anodd, ac mae gofyn hynny oddi cartref yn galed ond dyna yr ydym yn chwilio amdano."
Tîm Cymru v.Ffrainc: Paris, dydd Sadwrn 28 Chwefror am 17:00:
Olwyr: Leigh Halfpenny (Toulon), George North (Northampton Saints), Jonathan Davies (ASM Clermont Auvergne), Jamie Roberts (Racing Metro), Liam Williams (Scarlets), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch);
Blaenwyr: Gethin Jenkins (Gleision), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Luke Charteris (Racing Metro), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Gweilch), Sam Warburton (Gleision, CAPT), Taulupe Faletau (Dreigiau).
Eilyddion: Richard Hibbard (Caerloyw), Paul James (Caerfaddon), Aaron Jarvis (Gweilch), Bradley Davies (Wasps), Justin Tipuric (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Rhys Priestland (Scarlets), Scott Williams (Scarlets).