Carchar am oes am lofruddio Karen Catherall

  • Cyhoeddwyd
Darren John JeffreysFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Plediodd Darren John Jeffreys yn euog i lofruddiaeth

Bydd dyn o'r Wyddgrug yn treulio o leia' 17 mlynedd a hanner yn y carchar am lofruddio menyw yn ei chartref fis Medi diwethaf.

Roedd Darren John Jeffreys, 47 oed, wedi cwrdd â Karen Catherall ar wefan Plenty of Fish ar gyfer pobl sengl sy'n chwilio am bartner.

Ar y diwrnod cyn ei marwolaeth roedd y ddau wedi bod yn yfed mewn tafarndai yn Yr Wyddgrug. Jeffreys ei hun wnaeth ffonio 999 yn oriau man bore 14 Medi gan honni bod Ms Catherall yn diodde' o effeithiau goryfed y diwrnod cynt, ond fe ddywedodd parafeddygon ei bod wedi marw ers peth amser.

Fe wnaeth archwiliad post mortem ddangos i Ms Catherall farw o ergyd i'w phen a chael ei thagu.

Mewn gwrandawiad cynharach roedd Jeffreys wedi pledio'n euog i lofruddiaeth yng nghartref Ms Catherall yng Ngwernaffield.

Wrth ei ddedfrydu i garchar am oes - gyda lleiafswm o 17 mlynedd a hanner dan glo - fe ddywedodd y barnwr Mr Ustus Wyn Williams bod Jeffreys yn gyfrifol am "drais direswm gydag alcohol a'ch natur genfigennus yn ei wthio".

Ychwanegodd bod yr ymosodiad ar Ms Catherall wedi bod yn "ffyrnig, yn ddidrugaredd ac yn y pen draw yn angheuol".

Wrth ymateb mewn datganiad, dywedodd teulu Ms Catherall eu bod yn croesawu'r ddedfryd o garchar am oes, gan ychwanegu:

"Ni fydd Darren Jeffreys fodd bynnag yn talu am ddwyn bywyd Karen oddi arni mewn modd mor erchyll a threisgar, ac rydym yn gobeithio y bydd ei weithredoedd yn aros gydag ef am weddill ei fywyd.

"Bu'n gyfnod annioddefol a thorcalonnus i bawb oedd yn nabod ac yn caru Karen. Boed iddi nawr orwedd mewn hedd."