Meddiannu €60,000 gan ŵr busnes
- Cyhoeddwyd

Mae gŵr busnes o'r Iwerddon wedi methu yn ei ymgais i hawlio €60,000 yn ôl gan yr awdurdodau, wedi i'r arian gael ei feddiannu ym Mhorthladd Caergybi.
Roedd Richard O'Brien, 58, o Rathkeale, yn Limerick wedi ei gyhuddo ar un adeg o chwarae rhan flaenllaw mewn gang oedd yn cael ei amau o ddwyn cyrn rhinoseros gwerthfawr, ynghyd ag eitemau hynafol o Tsieina.
Clywodd barnwr mewn llys yn Llandudno fod grŵp troseddol wedi cynllunio i ladrata eiddo ar hyd a lled Prydain, gan gynnwys o Amgueddfa Fitzwilliam yng Nghaergrawnt yn 2012, pan gafodd 18 cerflun bychan o Tsieina gwerth £15m ei dwyn.
Cafodd O'Brien ei arestio mewn cysylltiad â'r lladrad honedig yn 2013, ond roedd yn gwadu'r honiadau yn ei erbyn ac fe benderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron beidio â dwyn achos yn ei erbyn.
Ond yn Ionawr 2013 cafodd yr arian oedd ym meddiant Mr O'Brien ei feddiannu gan Heddlu Gogledd Cymru, pan gyrhaeddodd gyda'i ferch ar fws yng Nghaergybi cyn hwylio i'r Iwerddon.
Roedd yr heddlu yn honni fod cysylltiad troseddol gydag eraill.
Yn dilyn gwrandawiad ddydd Llun, dywedodd y barnwr Gwyn Jones fod Mr O'Brien wedi sefydlu busnes yn mewnforio dodrefn o Tsiena i Brydain a'r Iwerddon. Ond doedd na ddim esboniad credadwy, wedi ei gefnogi gan waith papur, i awgrymu fod y 60,000 Ewro wedi dod o ffynhonnell ddilys ac roedd yn fodlon fod cysylltiad gyda throseddu.
Gorchmynnodd y barnwr y dylid cadw'r arian, a chafodd Mr O'Brien ei orchymyn i dalu £2,000 o gostau.