Pryder heddlu am fenyw ar goll
- Cyhoeddwyd

Fe ddywed Heddlu'r Gogledd eu bod yn bryderus am ddiogelwch dynes o Ynys Môn sydd heb gael ei gweld ers prynhawn Sul.
Gadawodd Laura Wynne Roberts Ysbyty Gwynedd ym Mangor am 12:30 ar ddydd Sul, 22 Chwefror, a does neb wedi ei gweld ers hynny.
Mae Ms Roberts yn 30 oed ac o ardal Niwbwrch ar Ynys Môn.
Cafodd ei disgrifio fel menyw 5'4"-5'6" o daldra ac o gorff main gyda gwallt brown at ei hysgwyddau. Credir ei bod yn gloff.
Pan gafodd ei gweld ddiwethaf, roedd yn gwisgo cot las tywyll o'r math 'puffa' gyda chwfl.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd wedi ei gweld neu sy'n gwybod lle mae hi i ffonio PC1714 Ceirion Gilford yng ngorsaf heddlu Llangefni ar 101.