Cyhoeddi cyllideb gwrthbleidiau Cyngor Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwrthbleidiau ar Gyngor Caerdydd wedi cyhoeddi cyllideb amgen, sy'n cynnwys cynnydd o 3.7% yn nhreth y cyngor.
Maen nhw'n dweud eu bod wedi creu cynllun y "gall pob plaid ei gefnogi".
Bydd cyllideb 2015/16 dadleuol y grŵp Llafur, sy'n rheoli'r cyngor, yn destun pleidlais ddydd Iau.
Mae aelodau meinciau cefn Llafur yn anhapus gyda'r cynlluniau i wneud toriadau i ganolfannau dydd a grwpiau chwarae, ynghyd â chynnydd o 5% yn nhreth y cyngor.
Mae BBC Cymru ar ddeall bod rhai ohonyn nhw'n ystyried cefnogi cynlluniau'r gwrthbleidiau.
'Pryderon'
Mae'r blaid Lafur wedi rhybuddio'r rheiny sy'n ystyried pleidleisio yn erbyn y gyllideb y gallai hynny niweidio ymgyrch etholiadol y blaid yn y brifddinas, ynghyd ag arwain at gamau disgyblu.
Mae'r cynnig gan y gwrthbleidiau - clymblaid o aelodau annibynnol, Democratiaid Rhyddfrydol, Ceidwadwyr a Phlaid Cymru - yn cynnwys llai o gynnydd yn nhreth y cyngor a mwy o arian ar gyfer canolfannau dydd a grwpiau chwarae.
Dywedodd y Cynghorydd Annibynnol, Jayne Cowan: "Mae pryder am effaith y toriadau ar gymunedau ar draws y ddinas, ac rydym ni eisiau sicrhau ein bod yn ymateb yn bositif er mwyn lleihau'r pryderon sydd gan bobl leol am ddyfodol eu gwasanaethau.
"Bydd y newidiadau yn sicrhau digon o arian ar gyfer canolfannau chwarae, canolfannau ieuenctid, canolfannau dydd a Gwasanaeth Cwnsela Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd, tan i ddulliau cynaliadwy amgen gael eu cyflwyno."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2015
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2015
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2015