Wigan 0-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Wedi 20 munud aeth Caerdydd ar y blaen diolch i gôl gan Aron Gunnarsson.
Llwyddodd Wigan i ganfod cefn y rhwyd cyn diwedd yr hanner, ond penderfynodd y dyfarnwr bod James McClean wedi camsefyll, gan olygu bod Caerdydd yn arwain ar yr hanner.
Er gwaethaf cyfleoedd i'r ddau dîm yn yr ail hanner, ni lwyddodd unrhyw un i sgorio, gan olygu buddugoliaeth i Gaerdydd.