Cyn-bennaeth ysgol wedi'i chyhuddo o 'fwlio'

  • Cyhoeddwyd
Jill Elizabeth EvansFfynhonnell y llun, Media Wales
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Jill Elizabeth Evans yn bennaeth ar Ysgol Gynradd Heolgerrig rhwng 2005 a 2011.

Mi wnaeth cyn-bennaeth ysgol gynradd ym Merthyr Tudful gyflogi cariad ei mab fel athrawes gynorthwyol er ei bod yn ymwybodol o'r berthynas, clywodd gwrandawiad disgyblu yng Nghaerdydd.

Mae Jill Elizabeth Evans, 54 oed, cyn-brif athrawes Ysgol Gynradd Heolgerrig yn wynebu naw cyhuddiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol.

Mae'r cyhuddiadau, sy'n dyddio o 2007 i 2010, yn ymwneud â bwlio, cam ddefnyddio arian, codi ofn ar staff, ffugio cofnodion cyfarfodydd staff, a gadael i ofalwr yr ysgol edrych ar ôl dosbarth tra'r oedd yr athrawes yn torri ei gwallt.

Mae Ms Evans yn gwadu'r honiadau, sy'n cael eu clywed gan banel Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yng Nghaerdydd.

Ar ail ddiwrnod y gwrandawiad dywedodd Alison Devereux, cyn-athrawes cynorthwyo iaith yn yr ysgol bod Ms Evans wedi cyflogi Lindsay Bolton yn 2009 yn gwybod ei bod mewn perthynas â'i mab, Scott.

Mae Ms Evans wedi'i chyhuddo o recriwtio Ms Bolton yn groes i ganllawiau'r cyngor ynglŷn â phenodi unrhyw un oedd ganddi berthynas agos â hwy. Mae hi wedi ei chyhuddo'n bellach o roi codiadau cyflog i Ms Bolton heb y sêl bendith priodol.

Cwyn ffurfiol

Aeth Ms Devereux ymlaen i ddweud y byddai Ms Evans yn gadael i staff dorri eu gwalltiau ar dir yr ysgol, yn ystod amser gwersi.

Yn gynharach, dywedodd athrawes gynorthwyol yr ysgol, Yvonne Mahoney, wrth y gwrandawiad ei bod wedi gwneud cwyn ffurfiol am Ms Evans ym mis Medi 2010 am ei bod yn teimlo bod y pennaeth yn "ceisio newid fy amserlen i'r pwrpas o fy mwlio".

Dywedodd Ms Mahoney hefyd bod Ms Evans wedi defnyddio bygythiadau tuag at staff mewn cyfarfod am gae chwarae newydd i'r ysgol, a gwadodd ei bod yn gor-ddweud am ymddygiad y cyn-bennaeth.

Mae'r gwrandawiad yn parhau.