Canfod corff wrth chwilio am yr arlunydd Roger Cecil

  • Cyhoeddwyd
Roger CecilFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddiflannodd Roger Cecil o Ysbyty Brenhinol Gwent ddydd Sadwrn

Mae'r heddlu yn dweud eu bod yn credu mai corff yr arlunydd Roger Cecil gafodd ei ddarganfod mewn cae yng Nghwmbrân.

Roedd y dyn 72 oed o Abertyleri, oedd yn diodde' o ddementia, wedi diflannu o Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn.

Cafodd y corff ei ddarganfod gan aelod o'r cyhoedd mewn cae ger Ffordd Treherbert tua 16:15 ddydd Mawrth.

Mae Heddlu Gwent yn dweud nad yw achos y farwolaeth wedi'i gadarnhau eto ac maen nhw wedi cyfeirio'r achos i Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.

Dyw'r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto.