Ffigyrau'r gwasanaeth ambiwlans wedi gwella

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans tu allan i Ysbyty Treforys

Mae perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru wedi gwella ar ôl y ffigyrau gwaetha' ar gofnod ym mis Rhagfyr.

Roedd y gwasanaeth wedi llwyddo i ymateb i 48.5% o alwadau Categori A (ble mae perygl uniongyrchol i fywyd) o fewn wyth munud ym mis Ionawr.

Mae hynny 5.9% yn well na'r mis blaenorol, pan roedd y canran yn 42.6% ac ar ei lefel isa', ond 9.1% yn llai na'r un adeg flwyddyn yn ôl.

Daw'r ffigyrau ar ôl misoedd o graffu ar y gwasanaeth, sy'n methu yn gyson i gwrdd â tharged Llywodraeth Cymru.

Y targed ar gyfer y galwadau mwya' brys yw 65%.

Dim ond unwaith mae'r targed wedi ei gwrdd yng Nghymru mewn dwy flynedd a hanner.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn cymryd nifer o gamau i drawsnewid y gwasanaeth ambiwlans.

Fe gyhoeddon nhw'r mis diwetha' eu bod yn buddsoddi £11 miliwn yn ychwanegol ar y gwasanaeth ambiwlans er mwyn gwella'r ymateb i alwadau brys.

Ond mae'r gwrthbleidiau wedi disgrifio'r sefyllfa yn y gorffennol fel un "bryderus" ac "ofnadwy".

Prif ffigyrau mis Ionawr:

Roedd 'na 36,876 o alwadau brys - 8.1% yn llai nag ym mis Rhagfyr 2014 a 6.2% yn fwy nag ym mis Ionawr 2014.

O'r rhain, roedd 14,635 yn alwadau Categori A (bywyd mewn perygl mawr) - 9.0% yn llai na Rhagfyr 2014 ond 6.6% yn fwy na Ionawr 2014.

Fe ymatebwyd i 48.5% o'r galwadau Categori A o fewn wyth munud - fyny o 42.6% ym mis Rhagfyr 2014 ond i lawr o'i gymharu â'r 57.6% yn Ionawr 2013 - ac yn is na'r targed o 65%.

Fe ymatebwyd i 53.6% o alwadau Categori A o fewn 9 munud, 58.7% o fewn 10 munud, 75.4% o fewn 15 munud, 84.8% o fewn 20 munud a 93.2% o fewn 30 munud.

Ymateb

Dywedodd Tracy Myhill, Prif Weithredwr dros dro'r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru: "Fe hoffem ni sicrhau'r cyhoedd nad ydyn ni mor bell â hynny o gwrdd â'n targed ac nad yw'r rhan fwya' o gleifion yn gorfod disgwyl oriau am gymorth mewn achos brys, ble mae bywydau mewn perygl.

"Un peth sy'n parhau'n rhwystr yw'r broses o drosglwyddo cleifion i ysbytai a dyna pam, y mis hwn, mewn partneriaeth â'n cydweithwyr o fewn y byrddau iechyd, rydyn ni wedi cytuno ar gynllun trosglwyddo cenedlaethol, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd hyn yn galluogi i'n hambiwlansys gael eu rhyddhau yn fwy amserol.

"Dyw'r perfformiad yn dal ddim yn agos at ble mae o angen bod, ond rydyn ni'n canolbwyntio'n hymdrechion ar wella. Rydyn ni'n gwneud popeth posib i ddarparu gwasanaeth y gall y cyhoedd fod yn falch ohono.

"Ddylen ni ddim tanbrisio'r heriau sy'n wynebu ein gwasanaeth ambiwlans, ac rwy'n canmol staff am eu hymdrechion i ddarparu gofal clinigol gwych mewn amgylchiadau sy'n aml yn anodd iawn."

'Blaenoriaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid yw Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn perfformio fel y mae'r cyhoedd, y byrddau iechyd a'r gwasanaeth ambiwlans am iddo berfformio.

"Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd a'r gwasanaeth ambiwlans gydweithio i wella perfformiad.

"Dylid edrych ar y ffigyrau yma yng nghyd-destun y pwysau sylweddol oedd ar GIG Cymru ym mis Ionawr.

"Mi wnaeth y gwasanaeth ambiwlans ymateb i 24% yn fwy o alwadau difrifol i'w gymharu â mis Ionawr 2014. Ond, mae'r ffigyrau wedi gwella ar ffigyrau mis Rhagfyr.

"Mae gwella amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae'r pecyn o fuddsoddiad gwerth £11 miliwn a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Iechyd ym mis Ionawr yn brawf o'n hymrwymiad."

'Annerbyniol'

Mae Darren Millar AC, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, wedi ymateb i'r ffigyrau drwy ddweud: "Mae'r ffigyrau hyn yn dystiolaeth bellach o'r amseroedd ymateb ofnadwy yng Nghymru gyda llai na hanner o'r cleifion sy'n galw 999 mewn sefyllfa ble mae perygl uniongyrchol i fywyd yn derbyn ymateb o fewn wyth munud.

"Dyma effaith toriadau'r blaid Lafur i'r GIG, sydd wedi golygu bod gwlâu'n cael eu colli, gwasanaethau'n cael eu canoli ac ysbytai'n cael eu hisraddio, gan arwain at oedi difrifol wrth drosglwyddo cleifion o'r ambiwlans i'r ysbyty.

"Mae'r amseroedd ymateb yma'n annerbyniol a dylai eu bod nhw'n ddigon i rybuddio gweinidogion Llafur, gan olygu eu bod nhw'n mynd i'r afael â'r materion yma gan wrthdroi eu toriadau i'r GIG."