Nifer wedi eu harestio mewn cyrchoedd cyffuriau
- Cyhoeddwyd

Mae 14 o bobl wedi eu harestio yn dilyn cyrchoedd cyffuriau yng ngogledd Cymru ddydd Mercher.
Roedd Ymgyrch Crossbow yn targedu troseddwyr sy'n teithio a gweithredu rhwng gogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr.
Cafodd cyrchoedd eu cynnal mewn 8 lleoliad yn Sir y Fflint lle'r oedd amheuaeth bod cyffuriau dosbarth A yn cael eu defnyddio neu eu dosbarthu.
Roedd bron i 100 o swyddogion heddlu o Gymru yn rhan o'r cyrchoedd.
Cafodd saith person eu harestio am droseddau yn ymwneud â chyffuriau, tri am fethu ymddangosiadau llys a dau am ddwyn.
Hefyd, cafodd un ei arestio am fod yn berchen ar luniau anweddus ac un arall am ladrata.
Cafodd bedwar cerbyd eu meddiannu gan yr heddlu fel rhan o'r ymgyrch am gael eu gyrru heb yswiriant.
Cafodd cyrchoedd tebyg eu cynnal yn Sir Caer a Glannau Merswy.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Sacha Hatchett o Heddlu Gogledd Cymru: "Rwy'n gobeithio bydd heddiw yn cadarnhau i'r cyhoedd y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn delio â throseddwyr sy'n meddwl ei bod yn dderbyniol i anwybyddu'r gyfraith yn ein cymuned."