Symud 60 i gartrefi dros dro wedi tân yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Tan Adamsdown

Mae dros 60 o bobl wedi gorfod symud i gartrefi dros dro yn dilyn tân difrifol yng Nghaerdydd ddydd Llun.

Roedd hyd at 80 o ddiffoddwyr yn delio gyda'r tân mewn adeilad wag yn ardal Adamsdown y ddinas.

Mae'r adeilad ar Stryd Pearl yn anniogel yn ôl y cyngor, ac mae swyddogion cynllunio a'r gwasanaethau brys yn cyfarfod ddydd Mercher i drafod ei ddyfodol.

Roedd rhaid symud pobl o 62 o gartrefi yn yr ardal, ac mae Cyngor Caerdydd yn dweud nad yw'n glir faint o bobl sydd wedi gorfod symud.

Dywedon nhw fod dros 60 o bobl wedi eu symud i gartrefi dros dro, a bod nifer hefyd yn aros gyda theuluoedd a ffrindiau.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd bod angen ymchwiliad llawn o'r adeilad cyn bod modd dechrau ei ddymchwel.

Ychwanegodd y byddai'r gwaith yn digwydd yn "araf" oherwydd hynny.