David Cameron 'yn diraddio y Gwasanaeth Iechyd'
- Cyhoeddwyd

Mae pennaeth nyrsio wedi dweud wrth y prif weinidog bod ysbryd staff yn cael ei niweidio gan feirniadaeth o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Dywedodd pennaeth y Coleg Nyrsio Brenhinol, Dr Peter Carter, wrth David Cameron mewn llythyr bod staff yn rhwystredig iawn.
Llynedd, dywedodd Mr Cameron bod gwahaniaethau mewn perfformiad rhwng y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ag yn Lloegr yn golygu bod Clawdd Offa yn "llinell rhwng byw a marw".
Dywedodd Dr Carter bod sylwadau Mr Cameron yn "ddiraddiol".
Yn ei lythyr, dywedodd Dr Carter: "Mae hyn yn rhwystredig ac yn siom fawr i staff nyrsio sy'n gweithio'n ddiflino i ofalu am gleifion, yn aml mewn amgylchiadau anodd.
"Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn pryderu bod effaith y sylwadau yma yn achosi i ysbryd ddisgyn eto, ar amser ble mae ysbryd gweithwyr y gwasanaeth ar ei isaf erioed.
"Mae tystiolaeth gymharol o'r gwasanaethau iechyd yn rhannau eraill y DU yn dangos bod y bwlch mewn perfformiad ar ei isaf erioed, a heb fesur i gymharu perfformiad yn fanwl, dyw beirniadaeth a diraddio di-dor ddim yn helpu."