Chwarter canrif ers llifogydd Tywyn
- Cyhoeddwyd

Ddydd Iau fe fydd pobl ardal Tywyn a Bae Cinmel yn Sir Conwy yn cofio'r llifogydd achosodd gymaint o ddifrod i arfordir yr ardal 25 mlynedd yn ôl.
Ar 26 Chwefror 1990, llifodd y môr dros amddiffynfeydd arfordirol a bu'n rhaid symud dros 5000 o bobl o'u cartrefi. Gwelwyd dŵr y môr hyd at chwe throedfedd o uchder mewn rhai cartref, a bu difrod sylweddol i ganoedd o dai.
Cafodd y llifogydd eu hachosi gan wyntoedd cryfion, llanw uchel a thywydd garw dros ben.
Wrth gofio'r achlysur, dywedodd Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae'n 25 mlynedd ers i'r llifogydd dinistriol greu cymaint o bryder a thor calon yn Nhywyn, ond i lawer o bobl mewn cymunedau fel y Rhyl ag Aberystwyth, mae'r boen a'r atgofion yn dal yn fyw yn eu meddyliau."
"Mae ein hinsawdd yn newid, ac mae'n rhaid i ni fod yn barod am y risg o fwy o stormydd eithafol a mwy o lifogydd yn y dyfodol.
"Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a chymunedau'r arfordir i'w helpu i roi cynlluniau mewn lle nawr, fel y bydden nhw wedi paratoi'n well ar gyfer llifogydd pan fydd yn digwydd eto."
Effaith uniongyrchol
Un gafodd ei effeithio yn uniongyrchol yn ystod llifogydd Tywyn oedd yr Aelod Cynulliad Ceidwadol lleol, Darren Millar. Dioddefodd ei gartref teuluol lifogydd a bu'n rhaid i'w deulu adael am gyfnod o achos y difrod a achoswyd gan y dŵr y diwrnod hwnnw.
Dywedodd Mr Millar: "Dim ond yn fy arddegau oeddwn i pan wnaeth y cyfuniad o wyntoedd stormus, llanw uchel a thonnau anarferol o uchel achosi difrod i 400m o addiffynfeydd arfordirol, gan achosi llifogydd i dai yn cynnwys fy nghartref teuluol.
"Doedd dim modd i ni symud yn ôl i'n cartrefi am 6 mis wrth i fy rhieni frwydro gyda'r cwmni yswiriant ac arolygu'r gwaith ail-adeiladu. Roedd yn ofnadwy ac mae wedi fy nhristhau i weld mwy o dai yn dioddef llifogydd yng ngogledd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf."
"Er nad oes modd i ni atal amgylchiadau tywydd eithafol, fe ddylie ni allu lleihau'r risg o lifogydd i dai a busnesau drwy gyfuniad o wella amddiffynfeydd llifogydd a sustemau effeithiol i rybuddio rhag llifogydd. Mae'n bwysig felly i ni gofio 25 mlynedd ers llifogydd Tywyn a'i ddefnyddio fel cyfle i godi ymwybyddiaeth o lifogydd ac i atgoffa Llywodraeth Cymru am yr angen i fuddsoddi mewn amddiffynfeydd llifogydd."
Bregus
Wrth gofio am y llifogydd, fe wnaeth Gweinidog Cyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru Carl Sargeant roi teyrnged i gymunedau Tywyn a Bae Cinmel, gan ddweud fod y digwyddiad yn tanlinellu pa mor fregus yw arfordir Cymru.
Dywedodd y Gweinidog: "Mae llifogydd diweddar, yn cynnwys llifogydd y Rhyl ym mis Rhagfyr 2013, wedi dangos sut y gall tywydd garw gael effaith anferth ar ein cymunedau.
"Rydym yn cydnabod y sialensiau hyn, a dyna pam fod rheoli risg llifogydd a'r arfordir yn parhau yn flaenoriaeth bwysig. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu gan y £150m ychwanegol yr ydym yn ei glustnodi i risg arfordirol o 2018 a £300m sydd wedi ei fuddsoddi drwy Gymru dros gyfnod y llywodraeth hon, yn cynnwys arian Ewropeaidd.
"Yn ogystal â hyn rwyf wedi llofnodi'r pedwar Cynllun Rheoli Arfordiroedd ar gyfer Cymru, fydd yn ein helpu i gynllunio o flaen llaw i newidiadau arfordirol a newid hinsawdd."